2023
![]() | ![]() |
---|---|
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
Yn Hydref, 2018, llwyfanwyd ein cynhyrchiad cyntaf - 2023 - yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd. Cafwyd adolygiadau disglair a disgrifwyd y ddrama gan un adolygydd fel “drama a ddylai gael ei hystyried fel un o ddramâu gorau Cymru 2018”.
Mae 2023 yn adrodd hanes Mary, a aned drwy sberm roddwr ac sydd yn dod i gysylltiad gyda’i thad biolegol Chris gan roi ysgytwad iw fywyd (a’i briodas â John). Datblygwyd y ddrama gyda chymorth academyddion ac ymchwilwyr ym meysydd rhoddion gamete a byddardod. Roedd modd dilyn y ddrama trwy uwchdeitlau ym mhob perfformiad.
Stephanie Back oedd yn chwarae rhan Mary, Tom Blumberg oedd John a Richard Elis oedd Chris. Cafwyd dwy drafodaeth ôl-sioe (isod). Ariannwyd y cynhyrchiad gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Unity Theatre Trust gyda chefnogaeth hael gan Chapter.




